Newid iaith

Rydych chi ar y tudalennau Cymraeg

Treth Stamp (SDLT) 

Os ydych yn prynu eiddo am fwy na £125,000 fydd rhaid talu treth stamp arno.

Mae’r swm dyladwy yn dibynnu a’r bris gwerthu llawn yr eiddo.

Ni fydd angen talu treth stamp ar eiddo sydd yn £125,000 neu llai, ond bydd 3% i’w dalu os ydy’r eiddo yn ail gartref neu yn budsoddiad.

Cyfeiriwch at y tablau isod i weld faint fyddai angen talu gan ei fod yn dibynnu ar pris a math o eiddo. 

Fyddwch angen talu cyfradd o’r dreth ar ran pris yr eiddo o fewn pob band treth, tebyg i trefn treth incwm (ar wahân i’r 3% ychwangeol sydd yn gymwys i bris cyfan yr eiddo os nad yw yr eiddo yn brif breswyl).

Eiddo Preswyl - Cyfraddau Treth Stamp

Pris prynu yr eiddo – Cyfradd treth stamp (ychwanegwch y swm y canran o gyfanswm y pris prynu ym mhob band)

 

Amrediad Prisiau Treth(Prynu Cartref) Adiwch (os yn ail cartref neu prynu i osod) Cyfanswm
£0 - £125,000 0% 3% 3%
£125,001 - £250,000 2% 3% 5%
£250,001 - £925,000 5% 3% 8%
£925,001 - £1.5 miliwn 10% 13% 13%
Dros £1.5 miliwn 12% 15% 15%

Enghraifft:

Ar eiddo £150,000 ni fyddai yna dreth i’w dalu ar y £125,000 cyntaf, dim ond 2% ar weddill y pris sef £25,000. Byddai hyn yn gwenud cyfanswm o £500. Os yw’r prynwr yn prynu ail eiddo, bydd angen ychwanegu 3% ychwanegol i’r cyfanswm. (£500 + £4,500 = £5,000.)

Ar eiddo £185,000 ni fyddai yna dreth i’w dalu ar y £125,000 cyntaf, dim ond 2% ar weddill y pris sef £60,000. Mae hyn yn cyrraedd y swm o £1,200. Os yw’r prynwr yn prynu ail eiddo bydd angen ychwanegu 3% ychwanegol i’r cyfanswm. (£1,200 + £5,550 = £6,750)

Ar eiddo £300,000 ni fyddai angen talu treth ar y £125,000 cyntaf, dim ond 2% ar weddill y pris sef £125,000 (£2,500) ac 5% ar weddill y pris sef £50,000 (£2,500). Mae hyn yn gyfanswm o £5,000. Os yw’r prynwr yn prynu ail eiddo bydd 3% yn cael ei ychwanegu i’r cyfanswm. (£5,000 + £9,000 = £14,000).

 

Mae’r wybodaeth uchod yn cael i’w ddarparu fel canllaw ac ni ddylai ddibynnu arno. Os ydydch yn brynwr neu werthwr, cymherwch gyngor cyn ymrwymio i werthu neu brynu eiddo.


Sylwer fod y rhyddhad Ardaloedd Difreintedig ar gyfer eiddo rhwng £125,000 a £150,000 wedi cael ei ddileu.

 

Eiddo Di-Breswyl

Gwerth Trosglwyddo – Cyfradd Treth Stamp (Canran o’r cyfanswm pris prynu eiddo).

 

Nid yw’r newidiadau o Ragfyr 2014 yn effeithio ar eiddo masnachol sydd yn parhau fel a ganlyn:

Fynu i £150,000 – Rhent blynyddol yn llai na £1,000 = Dim
Fynu i £150,000 – Rhent blynyddol yn £1,000 ne fwy = 1%
Dros £150,000 i £250,000 = 1%
Dros £250,000 i £500,000 = 3%
Dros £500,000 = 4%


Mae’r wybodaeth uchod yn cael i’w ddarparu fel canllaw ac ni ddylai ddibynnu arno. Os ydydch yn brynwr neu werthwr, cymherwch gyngor cyn ymrwymio i werthu neu brynu eiddo.

The above information is to provided as a guide and should not be relied upon by buyers or sellars - please take advice before making any commitment to buy or sell.


 

Symudwch gyda Hyder-
- yn y wybodaeth eich bod wedi'ch diogelu fel gwerthwr, prynwr, Landlord neu Denant.   
Rydym yn aelodau o gyrff eiddo proffesiynol:

Affiliations

MovingBoxesWide